CAPEL GORFFWYS LOGIN


Mae ein Capel Gorffwys wedi ei leoli yn y wlad tua milltir o dref Caerfyrddin. Mae’r Capel yn medru eistedd cynulleidfa o 100 o bobol ar gyfer gwasanaethau o bob math. Mae digon o le parcio a mynediad rhwydd i gadair olwyn. Rydym yn cydweithio yn agos gyda cherddorion lleol ac mae modd trefnu organydd pe bai angen.

Adeiladwyd Ysgol Gynradd Login yn 1868 ac mae gan drigolion y fro atgofion hapus am yr hen le. Bu’n ganolfan bwysig i’r gymdogaeth a bu Ysgol Sul Eglwys Llangynnwr yn cwrdd yno. Prynnwyd yr adeilad yn 2005 ac yn 2011 derbyniodd Glanmor Evans wobr Cymdeithas Ddinesig Caerfyrddin am waith adnewyddu i’r safon uchaf. Dyma’r unig Capel Gorffwys o’i fath yn yr ardal.

Cyfeiriad: Capel Gorffwys Login, Heol Llangynnwr, Caerfyrddin SA31 2PG

Cyfarwyddiadau:

O Gaerfyrddin: Ewch ar hyd Heol Llangynnwr (B4300) heibio Pencadlys Heddlu Dyfed Powys ac mae Capel Gorffwys Login ar ben y bryn ar yr ochr chwith.

O’r M4: Ewch i’r gorllewin ar hyd yr A48 heibio Cross Hands ac arwyddion i Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a Chanolfan Ailgylchu Caerfyrddin. Ewch i’r lôn allanol a trowch i’r dde am Nantycaws a Phencadlys yr Heddlu. Ewch lawr rhiw Nantycaws ac mae Capel Gorffwys Login ar ben y bryn ar y llaw dde.


CERBYDAU

CEIR ANGLADD O SAFON

Rydym wedi prynu hers Vauxhall newydd ac yn gallu darparu ceir angladd safonol o bob math. Mae ceir angladd yn gallu cludo hyd at 7 person yn gyffyrddus. Rydym hefyd yn cydweithio gyda South Wales Carriage Driving Centre i ddarparu hers geffylau pe byddech angen hynny. Mae modd hefyd darparu hers motobeic.

BLODAU

TORCHAU ER COF

Rydym yn cydweithio gyda threfnwyr blodau lleol o’r safon uchaf.

Rydym yn falch o gefnogi’r gwerthwyr blodau canlynol:

R. Davies & Son
www.rdaviesandson.co.uk
Farchnad Caerfyrddin
(01267) 236831

Blodwen
www.blodwen.co.uk
Wendy Davies
Nantycaws, Caerfyrddin
07876 274792

Flower Blaze
www.flowerblaze.co.uk
Jenny Baldwin
Ffynnonddrain, Carmarthen
07813 779062

“Thank you for all you did for us at such a difficult time. Your professionalism, kindness and care was amazing.”
“Thank you so much for your kindness whilst making our fathers funeral arrangements. Your support was very much appreciated.”
“Just to say how much we all appreciated your advice, guidance and support over the last few weeks.”