Rhestr Brisiau Safonol


Mae’n ofynnol yn gyfreithiol i bob trefnwr angladdau gyhoeddi Rhestr Brisiau safonol ar gyfer pecyn safonol o gynnyrch a gwasanaethau. Mae hyn er mwyn eich helpu i ystyried eich opsiynau a’ch dewisiadau’n ofalus, a’ch galluogi i gymharu prisiau rhwng y gwahanol trefnwyr angladdau (oherwydd gall prisiau amrywio).

ANGLADD A FYNYCHIR (costau’r trefnwr angladdau yn unig) Dyma angladd lle cynhelir seremoni, digwyddiad neu wasanaeth ar gyfer teulu a ffrindiau er cof am yr ymadawedig wrth iddynt hefyd fynychu’r claddiad neu amlosgiad.

£1,750.00

Cymryd gofal o’r holl drefniadau cyfreithiol a gweinyddol angenrheidiol.

£560.00

Casglu a chludo’r ymadawedig o’r lleoliad lle bu farw (o fewn 15 milltir i safle’r trefnwr angladdau fel arfer) i ofal y trefnwr angladdau.

£150.00

Gofalu am yr ymadawedig cyn yr angladd mewn cyfleusterau priodol. Cedwir yr ymadawedig yng Nghapel Gorffwys Login, Heol Llangynnwr, Caerfyrddin.

£220.00

Darparu arch briodol – arch deri draddodiadol

£560.00

Trefnu amser i’r teulu a chyfeillion i wario amser gyda’r ymadawedig, drwy apwyntiad gyda’r trefnwr angladdau 

from £60.00

Ar ddyddiad ac amser a gytunwch gyda’r trefnwr angladdau, cludo’r ymadawedig yn uniongyrchol i’r fynwent neu’r amlosgfa a drefnwyd (o fewn 20 milltir i safle’r ymgymerwr angladdau fel arfer) mewn hers neu gerbyd arall addas.

£200.00

ANGLADD HEB EI FYNYCHU Dyma angladd lle cynhelir seremoni, digwyddiad neu wasanaeth ar gyfer teulu a ffrindiau er cof am yr ymadawedig, ond nid ydynt yn mynychu’r claddiad neu’r amlosgiad.

Claddiad (costau’r ymgymerwr angladdau yn unig).

£1,360.00

Amlosgiad (costau’r ymgymerwr angladdau a ffi’r amlosgiad) 2

£1,650.00

FFIOEDD SY’N RHAID I CHI EU TALU

Ar gyfer angladd claddiad a Fynychir neu heb ei Fynychu, ffi’r claddiad.2

£400.00 - £900.00

Yn yr ardal leol hon, cost nodweddiadol y ffi gladdu ar gyfer trigolion lleol yw:

Ar gyfer bedd newydd, bydd angen i chi dalu am y plot hefyd; ar gyfer bedd sy’n bodoli’n barod gyda charreg fedd yn ei lle, efallai y bydd angen i chi dalu ffi tynnu/ailosod. Yn ychwanegol, gallai’r fynwent godi amryw o ffioedd eraill arnoch.

Ar gyfer angladd sy’n amlosgiad a Fynychir, y ffi amlosgiad.2  (o 1af o Fedi 2021)

 

DIM - £1,673.00

Amlosgfa Parc Gwyn, Arberth:

dydd yr wythnos 9.15yb. - 3.15yp.

£710.50

dydd yr wythnos 4.00yp. (1af Chwefror-31ain Hydref yn unig)

£766.50

Sadwrn 10.45yb. - 1.00yp. only

£934.00

Amlosgfa Crematorium:

dydd yr wythnos am 9.00yb.

£635.00

dydd yr wythnos 10.00yb-4.00yp.

£835.00

Trafodwch unrhyw anghenion crefyddol, credoau penodol a/neu ddiwylliannol sydd gennych gyda’r trefnwr angladdau.

CYNNYRCH A GWASANAETHAU YCHWANEGOL Y TREFNWR ANGLADDAU

Efallai bydd y trefnwr angladdau hwn yn gallu cynnig ystod o gynnyrch a gwasanaethau ychwanegol dewisol, neu i drefnu bod rhywun arall yn eu darparu. Enghreifftiau’n cynnwys:

Milltiroedd ychwanegol (pris fesul milltir)

£1.00 y filltir

Trosglwyddiadau o gorff yr ymadawedig (i’w gartref/Capel/Eglwys)

£80.00

Casglu a dychwelyd llwch

£95.00

Balmeiddio.

£130.00

Gweinyddwr yr angladd (e.e. offeiriad, gweinidog ac ati)

Rhoddir prisiau pan fo angen

Gwasanaethau a ddarperir y tu hwnt i oriau swyddfa arferol

Rhoddir prisiau pan fo angen

Gall y trefnwr angladdau roi rhestr lawn i chi o’r hyn sydd ar gael. Mae’n debygol o godi ffi am y cynnyrch a’r gwasanaethau ychwanegol hyn, felly efallai y dymunwch gymryd cyfrifoldeb dros rai ohonynt eich hunan, neu gallwch ddefnyddio cyflenwr gwahanol.

1 This fee (which is sometimes called the interment fee) is the charge made for digging and closing a new grave, or for reopening and closing an existing grave.

2 In England, Wales and Northern Ireland, you will usually need to pay doctors’ fees as well. This is the charge for two doctors to sign the Medical Certificates for Cremation.

Eirch

Arch Cardbord Plaen
plaen gyda leinin, ffrilen a phlatyn enw

o £350

Arch Cardbord Plaen
plaen gyda leinin, ffrilen a phlatyn enw

o £520.00

Arch Draddodiadol Derw - maint arferol size

£560.00

Arch Draddodiadol Derw - yn fwy na meintiau arferol

£590.00-£800.00

Arch Draddodiadol solet

pris pan fo angen

Arch Gwiail
Leinin, gobenydd a phlatyn enw

o £450.00

Arch Helyg (Somerset Willow)
Dolenni, leinin, gobenydd a phlatyn enw

o £635.00

Trafnidiaeth

Llogi Ceir teuluol a gyrrwyr

£180
codi tal am filltiroedd neu amser ychwanegol

Hers Geffylau gyda dau geffyl gwedd ac yn gyrrwr

Arall

Cludwyr

£10.00-£40.00 yr un

Cascet Deri gyda phlatyn enw ar gyfer llwch

Sengl

£90.00

Dwbwl

£135.00

Tiwb Gwasgau llwch

Mawr

£35.00

Canolog

£18.00

Bach

£12.00

Notis yn y papur newydd / ar-lein

pris pan fo angen

Taflenni Angladd:

4 tudalen neu 8 tudalen / du a gwyn neu liw

pris pan fo angen

Defnydd y Capel Gorffwys am wasanaeth angladdol

£75.00

Defnydd y Capel Gorffwys am wasanaeth fer

£30.00

Croes dros-dro i’w osod ar fedd

£38.00

Telerau Busness

Glanmor Evans a'i Fab
[sef enw masnachol Glanmor Davies Evans and Son Limited]

Trydydd Parti

Mae’n bosib byddwn yn gofyn i drydydd partion i weithredu ar eich rhan fel rhan o drefniadau’r angladd. Rydym yn gweithredu fel asiant i chi ar yr adegau hyn. 

Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am golled, niwed, costau neu anghyfleustra o unrhyw fath o ganlyniad i weithredoedd trydydd partion. 

Eiddo

O dro i dro, rydym yn derbyn eiddo gwerthfawr er mwyn gosod yn yr arch neu fel rhan o drefniadau’r angladd.  Rydym yn gwneud hyn ar yr amod na fyddwn yn gyfrifol pe bai yna golli, niwed, costau ychwanegol neu anghyfleustra o unrhyw fath yn codi o wneud hyn. 

SAIF

Rydym yn aelodau o SAIF, sef National Society of Allied and Independent Funeral Directors. Rhif aelodaeth 3068,  (www.saif.org.uk)  SAIF Business Centre, 3 Bullfields, Sawbridgeworth, Hertfordshire, Lloegr. CM21 9DB.    Rydym yn falch o ddilyn Côd Ymarfer SAIF. Mae copi ar gael ar gais. 

Telerau Talu

Disgwylir i chi dalu am yr angladd o ymhen 28 diwrnod o dderbyn yr anfoneb. 

Pe na fyddwch yn gwneud hyn mae’n bosib bydd yn rhaid i chi dalu costau pellach, ac mae modd i ni ofyn i’n cyfreithiwr ni i adennill y ddyled wrthoch chi. Byddwch hefyd yn gyfrifol am unrhyw gostau cyfreithiol pellach.  

Cofrestr Diddordebau

Enw masnachu yw Glanmor Evans a’i Fab ar ran Glanmor Davies Evans and Son Ltd 

(Rhif y cwmni 7886529). Y perchnogion yw Glanmor Evans, Wendy Evans ac Iwan Evans. Cyfarwyddwyr y cwmni yw Glanmor Evans, Wendy Evans, Iwan Evans a Nerys Evans.

Yn ystod y 12 mis diwethaf :

  • nid yw’r cwmni wedi gwneud unrhyw rhoddion elusennol i drydydd parti.
  • nid yw’r cwmni wedi gwneud unrhyw rhoddion i drydydd parti
  • nid yw’r cwmni wedi gwneud unrhyw fath o daliad i drydydd parti nad sydd yn berthnasol i unrhyw gost neu wasanaeth 

Nid oes yna unrhyw ddiddordeb busnes neu ariannol mewn unrhyw wefan cymharu prisiau sydd yn rhoi cymhariaeth rhwng gwasanaethau Trefnwyr Angladdau a/neu Amlosgfeydd 

Ein Busnes

Rydym yn gweithredu mewn modd proffesiynnol ac yn cynnig gwasanaeth cwrtais, sensitif ac urddasol bob amser. 

Polisi Preifatrwydd

Mae pob gwrthrych data y mae ei ddata personol yn cael ei gasglu, yn unol â gofynion Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol 25.05.2018.

Cyfrifoldebau:

Mae Glanmor Evans a'i Fab fel yr enw masnachu ar gyfer Glanmor Davies Evans a'i Fab Cyfyngedig yn gyfrifol am sicrhau bod yr hysbysiad hwn ar gael i bob unigolyn cyn i ni gasglu/prosesu eu data personol.

Mae pob un o’n cyflogeion sy’n rhyngweithio ag unigolion yn gyfrifol am sicrhau bod yr hysbysiad hwn yn cael ei ddwyn i’w sylw ac yn cytuno i brosesu eu data.

Byddem yn prosesu eich manylion personol at ddibenion trefniadau angladd, darparu a phersonoli gwasanaethau, ymdrin ag ymholiadau a cheisiadau ac ar gyfer gwybodaeth a gwasanaethau marchnata.

Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol yw i drefnu gwasanaethau angladd a gweinyddu cynlluniau angladd a drefnwyd ymlaen llaw a chofnodion cynllun.

Caniatâd:

Trwy ofyn am ein gwasanaethau rydych yn rhoi caniatâd i ni brosesu eich data personol yn benodol at y dibenion a nodwyd. Pan fyddwn yn gofyn i chi am ddata personol sensitif byddwn bob amser yn dweud wrthych pam a sut y bydd yr wybodaeth yn cael ei defnyddio.

Gallwch dynnu caniatâd yn ôl unrhyw bryd drwy gysylltu â ni i ddiweddaru eich dewisiadau.

Datgeliad:

Byddwn ond yn trosglwyddo data personol i drydydd parti fel sy’n angenrheidiol at ddibenion trefniadau angladd – Byrddau’r GIG, Crwneriaid EM, Ymarferwyr Meddygol, Cofrestryddion, amlosgfeydd a mynwentydd a’u staff, Clerigion ac unigolion sy’n gysylltiedig â mannau addoli, gweinyddion, cerddorion. , gwerthwyr blodau, arlwywyr, cyfreithwyr, elusennau.

Cyfnod cadw:

Bydd Glanmor Evans a’i Fab yn sicrhau nad yw data personol yn cael ei gadw’n hirach nag sydd angen a bydd yn cadw’r lleiafswm o wybodaeth sydd ei hangen i gyflawni ein swyddogaeth fusnes a darparu ein gwasanaethau. Byddwn yn storio’r data personol at ddibenion cyfeirio yn unig.

Eich hawliau fel gwrthrych data:

Hawl mynediad – mae gennych hawl i ofyn am gopi o’r wybodaeth sydd gennym amdanoch.

Yr hawl i wrthwynebu – mae gennych yr hawl i wrthwynebu rhai mathau o brosesu megis marchnata uniongyrchol.

Yr hawl i ddileu – mae gennych hawl i ofyn, o dan rai amgylchiadau, bod y data personol sydd gennym ar eich cyfer yn cael ei ddileu.

Yr hawl i gywiro – mae gennych hawl i gywiro data sydd gennym amdanoch sy’n anghywir neu’n anghyflawn.

Cwynion:

Os ydych yn dymuno gwneud cwyn am sut mae Glanmor Evans a’i Fab yn prosesu eich data personol neu unrhyw drydydd parti a grybwyllir uchod, neu sut yr ymdriniwyd â’ch cwyn, cysylltwch â’n swyddfa ar 01267 237100.