Ein hanes


Bu Glanmor weithio fel Saer Coed i Adran Ystadau Cyngor Sir Gâr am nifer o flynyddoedd yn y siopwaith ger yr afon Tywi ar Hen Heol Llangynnwr, Caerfyrddin. Yn 1983 sefydlodd Glanmor ei fusnes saer coed ei hun ac mae ei waith coed dal i’w weld hyd heddiw mewn amryw le. Efallai mae’r prosiect mwyaf a gwblhaodd oedd pum ffenest liw enfawr sydd i’w gweld yng nghanol Eglwys Crist, Caerfyrddin. Glanmor hefyd greodd drysau allanol Eglwys Crist, ynghyd â drysau Capel Newydd, Llanybri. Bu hefyd yn creu meinciau ar gyfer pentrefi lleol, gan gynnwys y fainc yn Llanybri er cof am JH Davies.

Ym 1986 bu farw Mrs Annie Davies, Cwm Clyd, Llansteffan. Yn ôl y traddodiad gofynnwyd i’r saer lleol i ymgymryd a’r angladd. Dyma’r dechreuad. Trefnwyd tair angladd yn ystod y flwyddyn gyntaf. Erbyn heddiw mae’r cwmni yn trefnu tua 200 o angladdau y flwyddyn.

Mae’n nhw’n dweud y tu ôl i bob dyn da mae yna fenyw gwell! Mae hyn yn sicr yn wir gyda Glanmor a’i wraig Wendy. Mae ei sgiliau gweinyddol heb ei thebyg. Dros gyfnod o 30 mlynedd bu Glanmor a Wendy drefnu angladdau o bob math mewn amrywiol leoliadau.

Y mwyaf oedd angladd y diweddar Ray Gravell ar Barc y Strade ar 15 Tachwedd 2007. Fe ddaeth dros saith mil o bobol yno i dalu teurnged i Grav a darlledwyd y gwasanaeth yn fyw ar S4C.

Yn 2008 fe ddaeth cyfle i brynu hen Ysgol Login ar Heol Llangynnwr, tua filltir o dref Caerfyrddin. Dyma ddechrau ar y gwaith o drawsnewid yr hen adeilad i Gapel Gorffwys newydd.

Byddai hyn ddim wedi digwydd heb gymorth hael a chefnogaeth parod nifer o ffrindiau da (yn enwedig Dewi Evans, Egwad Evans a Goronwy Walters). Yn 2011 derbyniodd Glanmor a Wendy Gwobr Cymdeithas Ddinesig Caerfyrddin am eu gwaith yn adfer a diogelu yr adeilad hanesyddol hwn.

Capel Gorffwys Login yw cartref y cwmni.

Yn 2011 ymunodd Iwan Evans fel aelod o staff llawn amser, gan sicrhau fod y genhedlaeth nesaf o Drefnwyr Angladdau yn diogelu dyfodol y cwmni. Datblygwyd ymhellach yn 2020 gyda Emyr Davies yn ymuno fel Trefnwr Angladdau ac eto yn 2022 gyda apwyntio Rhinedd Williams fel Rheolwr Swyddfa.

Pan mae marwolaeth yn digwydd bydd ein staff profiadol at eich gwasanaeth.


Wrth edrych yn ôl dros 30 mlynedd mae egwyddorion Glanmor a Wendy mor gadarn heddiw ag oedd wrth ddechrau trefnu angladdau yn 1986.
Yn syml iawn, i ddarparu gwasanaeth o’r safon uchaf i’r gymuned ac i edrych ar bob teulu fel rhan o’u teulu nhw.
“Diolch am eich gwasanaeth proffesiynol ar achlysur trist iawn yn ein bywyd.”
“Gyda diolch am bob arweiniad ac am gyflawni’r holl drefniadau yn ôl ein dymuniad.”
“Rydych chi wedi bod yn broffesiynol iawn ac wedi gwneud yr holl broses yn ddi-drafferth i ni fel teulu.”