Pwy yw Pwy?


Ni yw Glanmor Evans a'i Fab, Trefnwyr Angladdau.

Rydym wedi ein lleoli yn Heol Llangynnwr, Caerfyrddin, ac wedi gwasanaethu cymunedau Caerfyrddin a’r cylch ers 1986.

Os yw’r gwaethaf yn digwydd bydd ein tîm yno i chi.


Iwan Evans

Trefnwr Angladdau, Rheolwr Gyfarwyddwr

Mae Iwan yn byw yn Lôn Pisgwydd, Caerfyrddin gyda'i wraig a'i blant. Dechreuodd helpu gyda busnes y teulu flynyddoedd yn ôl – yn adeiladu coffinau yn y sied yn ystod gwyliau ysgol. Dechreuodd Iwan weithio’n llawn amser fel Trefnwr Angladdau yn 2011. Mae Iwan bellach yn arwain y tîm, yn dilyn ymddeoliad Glanmor a Wendy o reng flaen y busnes. Yn ei amser hamdden mae'n mwynhau cerddoriaeth – gan chwarae'r sacsoffon, yr acordion a'r piano.

Image

Emyr Davies

Trefnwr Angladdau

Mae Emyr yn byw yn Abergwili gyda'i wraig a'i blant. Ymunodd Emyr â’r tîm fel Trefnwr Angladdau yn 2020 a chafodd brofiad ymarferol iawn yn ystod pandemig Covid. Mae Emyr ar hyn o bryd yn dilyn hyfforddiant gyda Choleg IFD – hyfforddiant penodol ar gyfer y proffesiwn angladdau. Yn ei amser hamdden mae Emyr yn mwynhau gwylio chwaraeon, cerdded a gwario amser gyda’r teulu.

Image

Rhinedd Williams

Rheolwr Swyddfa

Mae Rhinedd yn byw yn Llanddarog gyda'i gŵr a'i phlant. Ymunodd Rhinedd â’r tîm yn 2022 ac mae ganddi flynyddoedd lawer o brofiad mewn gweinyddiaeth ar ôl gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Barn Cyf., a Choleg y Drindod Caerfyrddin. Yn ei hamser hamdden mae Rhinedd yn mwynhau gwrando ar gerddoriaeth o bob math, cadw'n heini gyda aquafit a darllen.

Image

Elgan Evans

Gyrrwr

Mae Elgan yn byw yn Llansteffan gyda’i wraig. Roedd arfer gweithio yn Ffatrioedd Llaeth Caerfyrddin a Hendy-gwyn a gyda’r Gwasanaeth Tân fel mecanig yn gofalu am y cerbydau. Mae hefyd â blynyddoedd o brofiad fel cyn-wirfoddolwr gyda Gwylwyr y Glannau yn Llansteffan. Yn ei amser sbar mae’n mwynhau chwarae darts.

Image

Wendy Evans

Cyfarwyddwr

Mae Wendy yn Gyfarwyddwr y Cwmni ac yn un o sefydlwyr y busnes yn 1986. Bu’n gweithio fel Rheolwr Swyddfa rhwng 1986 a 2022 ac yn parhau yn weithgar y tu ôl i’r llenni. Yn ei amser sbar mae’n mwynhau garddio, chwarae’r piano a gwario amser gyda’r teulu.   

Image

Glanmor Evans

Cyfarwyddwr

Mae Glanmor yn Gyfarwyddwr y Cwmni ac yn un o sefydlwyr y busnes gan ddechrau fel Trefnwr Angladdau yn 1986. Mae dal yn weithgar y tu ôl i’r llenni ac yn helpu drwy gyrru’r hers mewn angladdau o bryd i’w gilydd.  Yn ei amser sbar mae Glanmor yn mwynhau gweithio gyda coed yn ei siopwaith a mynd ar hyd lle yn ei dractor.

Image